Cynhwysion
- 1 winwnsyn
- 2 glof garlleg
- Cig eidion mâl heb fraster
- Tun o domatos wedi’u torri’n fân
- Piwrî tomato
- Coriander wedi’i falu’n fân
- Powdwr tsili
- Cwmin wedi’i falu’n fân
- Sinamon wedi’i falu’n fân
- Saws Worcestershire
- 1 ciwb stoc cig eidion
- Halen a phupur
- Tun o ffa Ffrengig
- Deilen coriander (dewisol)
- Iogwrt plain/hufen sur (dewisol)
- Reis/taten bob/bara crystiog (dewisol)
Dull
- Ffriwch y winwnsyn a’r garlleg mewn sosban fawr neu woc nes eu bod wedi meddalu. Trowch y gwres i fyny ac ychwanegu’r cig, gan ei goginio nes ei fod wedi troi’n frown a chwalu unrhyw lympiau â llwy bren.
- Ychwanegwch y tomatos, y piwrî, y coriander, y tsili, y cwmin, y sinamon a’r saws Worcestershire, a briwsioni’r ciwb stoc i’r cymysgedd. Ychwanegwch halen a phupur at eich dant.
- Addaswch y gwres nes ei fod yn mudferwi, gorchuddiwch â chaead a’i goginio dros wres isel am ryw awr, gan ei droi o bryd i’w gilydd nes bod y cymysgedd yn drwchus.