View text: Small Medium Large
Chili Con Carne

Chili Con Carne

Cynhwysion

  • 1 winwnsyn
  • 2 glof garlleg
  • Cig eidion mâl heb fraster
  • Tun o domatos wedi’u torri’n fân
  • Piwrî tomato
  • Coriander wedi’i falu’n fân
  • Powdwr tsili
  • Cwmin wedi’i falu’n fân
  • Sinamon wedi’i falu’n fân
  • Saws Worcestershire
  • 1 ciwb stoc cig eidion
  • Halen a phupur
  • Tun o ffa Ffrengig
  • Deilen coriander (dewisol)
  • Iogwrt plain/hufen sur (dewisol)
  • Reis/taten bob/bara crystiog (dewisol)

Dull

  1. Ffriwch y winwnsyn a’r garlleg mewn sosban fawr neu woc nes eu bod wedi meddalu. Trowch y gwres i fyny ac ychwanegu’r cig, gan ei goginio nes ei fod wedi troi’n frown a chwalu unrhyw lympiau â llwy bren.
  2. Ychwanegwch y tomatos, y piwrî, y coriander, y tsili, y cwmin, y sinamon a’r saws Worcestershire, a briwsioni’r ciwb stoc i’r cymysgedd. Ychwanegwch halen a phupur at eich dant.
  3. Addaswch y gwres nes ei fod yn mudferwi, gorchuddiwch â chaead a’i goginio dros wres isel am ryw awr, gan ei droi o bryd i’w gilydd nes bod y cymysgedd yn drwchus.

Neu gwyliwch yn y fideo yma yn lle: