View text: Small Medium Large
Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

  • At ddibenion y Telerau ac Amodau hyn, ystyr ‘Chi / Eich’ yw testun y data, ‘We / Us / Our’ yw Comisiynydd Plant Cymru (CCfW).
  • Fel sefydliad proffesiynol, rydym yn ystyried preifatrwydd pob unigolyn sy’n ymgysylltu â’n gwefan. Am wybodaeth bellach, gweler polisi preifatrwydd CCfW.
  • Gall CCfW newid y termau hyn o bryd i’w gilydd ac felly dylech wirio’r termau hyn yn rheolaidd. Ystyrir eich bod yn parhau i ddefnyddio www.complantcymru.org.uk yn derbyn y diweddariad neu’r telerau diwygiedig.
  • Dyma wefan swyddogol Comisiynydd Plant Cymru. Hawlfraint © Comisiynydd Plant Cymru: cedwir pob hawl. Mae holl elfennau’r wefan hon yn perthyn yn gyfan gwbl i Gomisiynydd Plant Cymru. Ni ellir atgynhyrchu unrhyw ran o’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gomisiynydd Plant Cymru, oni bai ei bod ar gyfer defnydd personol ac anfasnachol. Mae gennych hawl i lawrlwytho deunyddiau at ddibenion codi ymwybyddiaeth o Gomisiynydd Plant Cymru a hawliau plant. Mae unrhyw newidiadau amhriodol i ddeunyddiau neu unrhyw ddefnydd amhriodol arall o asedau a geir ar y wefan hon wedi’u gwahardd yn llwyr ac yn groes i hawliau perchnogaeth Comisiynydd Plant Cymru.
  • Rydym yn cadw’r hawl i atal eich mynediad i’r safle hwn ar unwaith os byddwch yn torri amodau’r Telerau ac Amodau hynny.
  • Ni fydd Comisiynydd Plant Cymru yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a all ddigwydd i’ch meddalwedd neu’ch caledwedd, nac yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o ddefnyddio unrhyw wybodaeth sydd ar y wefan hon.
  • Mae’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Am fwy o wybodaeth am ein Telerau ac Amodau, cysylltwch â CCfW:

Trwy e-bost: post@childcomwales.org.uk

Drwy’r post: Comisiynydd Plant Cymru, Tŷ Ystumllwynarth, Llys y Siarter, Phoenix Way, Llansamlet, Abertawe SA7 9FS

Dros y ffôn: 01792 765600