View text: Small Medium Large
18+

18+

Grant Dysgu’r Cynulliad

Mae Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad ar gyfer Addysg Bellach – ALG (FE) – yn helpu pobl 19 oed a throsodd i aros mewn addysg.

Mae’n daliad o hyd at £1,500 os wyt ti’n astudio’n amser llawn, a hyd at £750 os wyt ti’n rhan amser, ac mae’n dibynnu ar incwm dy deulu.

Benthyciadau a Grantiau Myfyrwyr

Os wyt ti eisiau mynd i’r brifysgol rwyt ti’n gallu cael benthyciadau a grantiau myfyriwr.

Cyllid Myfyrwyr Cymru sy’n gofalu am hynny.

Fwy na thebyg fyddi di ddim yn cael unrhyw fudd-daliadau eraill pan fyddi di yn y brifysgol; ond os wyt ti’n astudio’n rhan-amser ac ar incwm isel, os wyt ti’n rhiant dy hun, neu’n fyfyriwr ag anableddau, mae’n bosib  byddi di’n dal i fedru hawlio rhai budd-daliadau.

Bwrsariaeth Addysg Uwch

Fel arfer mae awdurdodau lleol yn rhoi arian ychwanegol i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i fynd ymlaen i addysg uwch.

Mae rhaid i bob awdurdod lleol dalu Bwrsariaeth Addysg Uwch o £2,000 i ymadawyr gofal sy’n dilyn cwrs addysg uwch.

Mynd nôl i’r coleg neu’r brifysgol ar ôl gadael gofal

Os wyt ti wedi gadael gofal ond yn dal o dan 25 ac yn penderfynu mynd nôl i’r coleg neu’r brifysgol, rwyt ti’n gallu cysylltu â’r tîm gadael gofal eto. Byddan nhw’n paratoi Cynllun Llwybr newydd ar gyfer dy addysg ac yn rhoi help a chefnogaeth i ti.

Cefnogaeth gan dy awdurdod lleol

Os byddi di’n aros mewn addysg a hyfforddiant ar ôl cyrraedd 18 oed, mae rhaid i’th awdurdod lleol gefnogi ti trwy wneud y pethau yma;

  • Gwneud yn siŵr bod dy gostau teithio’n cael eu talu, neu gefnogi ti i fyw o fewn pellter rhesymol i’th addysg
  • Rhoi grant i ti i helpu i dalu am gostau dy addysg neu dy hyfforddiant
  • Rhoi ymgynghorydd personol i ti, i roi cefnogaeth i ti
  • Gwneud yn siŵr bod gen ti lety addas yn ystod gwyliau’r tymor (neu roi digon o arian i ti fedru gwneud hynny dy hunan)
  • Rwyt ti’n gallu cael y gefnogaeth yma nes bod ti’n 25 oed, neu os yw’r cwrs yn mynd ymlaen ar ôl i ti gyrraedd 25, rhaid i’r awdurdod lleol gefnogi ti nes bod y cwrs wedi gorffen.
  • Os bydd dy addysg neu dy hyfforddiant yn stopio, mae rhaid i’r awdurdod lleol barhau i roi cefnogaeth resymol i ti nes bod y cwrs yn cychwyn eto.