View text: Small Medium Large
Byw yn annibynnol

Byw yn annibynnol

Os byddi di’n penderfynu bod ti eisiau byw ar dy ben dy hun, byddi di’n cael peth arian (Grant Gadael Gofal yw’r enw ar hyn) gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Bydd yr arian yma’n dy helpu di i brynu rhai o’r pethau sydd eu hangen mewn cartre newydd. Dylet ti ofyn i’th weithiwr cymdeithasol pryd byddi di’n cael yr arian yma, a faint fydd e.

Treth y Cyngor

Does dim rhaid i bobl ifanc sy’n gadael gofal dalu Treth y Cyngor nes bod nhw’n 25 oed. Pan fyddi di’n cael y Bil, mae’n bwysig cysylltu â’r awdurdod lleol i roi gwybod iddyn nhw bod ti wedi gadael gofal.

Mae’n bosib byddi di’n gallu cael cymorth arall hefyd, fel pas i’r bws neu arian oddi ar weithgareddau hamdden pan fyddi di wedi gadael gofal.

Gofyn am gyngor

Dylet ti ofyn i’th weithiwr cymdeithasol neu dy ymgynghorydd personol beth sydd ar gael yn dy ardal di.