Mae cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn arian rwyt ti’n gallu gofyn amdano i helpu gyda iechyd a llesiant, datblygiad ac annibyniaeth.
Dyw hyn ddim yn lle arian arall rwyt ti’n gallu cael, mae’n gymorth ychwanegol a does dim rhaid talu fe nôl.
I beth galla i ddefnyddio’r arian?
Rwyt ti’n gallu defnyddio’r arian i dalu am bethau fel offer i helpu ti i ddysgu, cymryd rhan mewn gweithgareddau neu fwynhau hobi, neu i brynu celfi i’r tŷ.
Pwy sy’n gallu cael yr arian?
Mae rhai rheolau sy’n dweud pwy sy’n gallu cael yr arian gan yr awdurdod lleol, ond mae’n cynnwys pobl ifanc mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd, fel:
- pobl ifanc 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal
- ymadawyr gofal o dan 18 oed
- ymadawyr gofal 18 oed a throsodd
- pobl ifanc sydd wedi gadael gofal ond sy’n cysylltu â’r awdurdod lleol eto oherwydd bod nhw eisiau mynd nôl i addysg neu hyfforddiant
- pobl ifanc a adawodd ofal gyda Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig
- pobl ifanc 21-24 oed sydd ddim mewn addysg na hyfforddiant ond sydd angen help gydag arian i fyw ar eu pen eu hunain
Gofala bod ti’n gofyn
Gofyn i’th weithiwr cymdeithasol neu dy ymgynghorydd personol sut mae cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn gweithio yn dy Awdurdod Lleol di, ac ydy rhywun yn dy sefyllfa di yn gallu cyflwyno cais.
Paid â cholli cyfle drwy beidio â gofyn!
Pethau i ofyn
Gofyn i’th weithiwr cymdeithasol neu dy ymgynghorydd personol beth rwyt ti’n gallu gwneud cais amdano, allan nhw roi enghreifftiau i ti o sut mae pobl eraill wedi defnyddio hynny, ac oes yna unrhyw beth dwyt ti ddim yn gallu ei ddefnyddio i wneud.
Falle byddi di eisiau gofyn hefyd oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth ysgrifenedig amdano fe, y gallet ti ddarllen yn dy amser dy hun, neu oes yna ddolen at wybodaeth ar-lein.