View text: Small Medium Large
Glanhau Stafell Molchi

Glanhau Stafell Molchi

  1. Gwagiwch y stafell. Mae’n llawer haws glanhau stafell molchi pan fydd hi’n wag!
  2. Ewch ati i ddwstio a sgubo. Defnyddiwch frwsh i gael gwared o we pry cop mewn corneli neu ar oleuadau. Gallwch chi sgubo neu ddefnyddio sugnydd llwch ar y llawr, a defnyddio lliain gwlyb i dynnu’r llwch oddi ar silffoedd ac ati.
  3. Glanhewch y gawod a’r bath. Chwistrellwch hylif glanhau stafell molchi dros yr arwynebau, a rhoi amser iddo wneud ei waith.
  4. Glanhewch yr arwynebau eraill â’r hylif glanhau, a’u sychu’n lân â thywelion papur.
  5. Defnyddiwch liain i sychu’r hylif glanhau oddi ar y gawod a’r bath.
  6. Mopiwch y llawr. Cymysgwch yr hylif glanhau â dŵr poeth, a rhoi eich mop mewn bwced yn llawn o’r cymysgedd, gwasgwch y dŵr diangen allan, ac yna ewch ati i lanhau llawr y stafell molchi.